
Poblogaeth
Bydd y cyfrifiad yn creu ciplun o'r boblogaeth gyfan yng Nghymru a Lloegr yn 2021, gan helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau.
Pam gweithio ar y cyfrifiad?
Mae cyfrif pawb yng Nghymru a Lloegr yn bwysig, felly rydym yn cyflogi pobl o bob cefndir i sicrhau bod hynny’n digwydd. Ymunwch â ni a bydd y data y byddwch yn helpu i'w casglu yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas.
Bydd y cyfrifiad yn creu ciplun o'r boblogaeth gyfan yng Nghymru a Lloegr yn 2021, gan helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau.
Bydd yn asesu faint o bobl y mae angen mynediad a chymorth ychwanegol arnynt, gan sicrhau bod y gwasanaethau iawn yn cael eu darparu i bawb.
Bydd y cyfrifiad yn datgelu gwybodaeth am yr amrywiaeth o dai sydd ar gael ar hyn o bryd ac ansawdd y tai hynny, gan helpu i gynllunio'n well ar gyfer anghenion tai yn y dyfodol.
Bydd yn rhoi darlun o'r niferoedd sy'n gweithio mewn gwahanol fathau o ddiwydiannau, gan alluogi sectorau gwahanol i gynllunio swyddi a hyfforddiant.
Bydd y cyfrifiad yn deall amrywiaeth ethnig, gan sicrhau bod adnoddau ar gael i wneud yn siŵr bod pob grŵp yn cael ei drin yn gyfartal.
Bydd yn mesur sut rydym yn defnyddio ceir a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu awdurdodau i gynllunio gwelliannau.