Swyddog symudol y cyfrifiad - Ail gylch
Lleoliad
300 rôl ledled Cymru a Lloegr
Cyflog
O £11.22 yr awr yn dibynnu ar y lleoliad
Oriau
Ail gylch; 37 awr yr wythnos
Hyd y contract
Ail gylch; 16 Mawrth i 13 Mai 2021
Patrwm gwaith
Bydd yn ofynnol i chi weithio eich dyletswyddau, yn cynnwys unrhyw amser teithio, o fewn yr oriau a nodir isod a chytuno i wneud hynny: Ar ddydd Llun: Hyd at awr i gael cadarnhad o leoliadau'r wythnos. O ddydd Mercher i ddydd Sadwrn: 9am – 8pm. Ar ddydd Sul a Gwyliau Banc: 10am – 4pm. Yn ogystal, caiff o leiaf 60% o'r oriau hyn eu gweithio o fewn yr amseroedd canlynol: Rhwng 4pm ac 8pm o ddydd Mercher i ddydd Gwener. Rhwng 9am ac 8pm ar ddydd Sadwrn. Rhwng 10am a 4pm ar ddydd Sul.
Digwyddiadau croeso
Ail gylch; 18 Ionawr i 2 Chwefror 2021
Ffenestr gwneud cais
Ail gylch; 21 Rhagfyr i 2020 i 27 Ionawr 2021
Chwiliad cyflog
Nodwch eich cod post i ddod o hyd i'r band cyflog ar gyfer eich lleoliad
Ydych chi am chwarae eich rhan yng Nghyfrifiad 2021? Mae ein swyddogion yn cyfrannu at lwyddiant cyffredinol y cyfrifiad. Mae hyn yn cynnwys ymweld ag eiddo gwahanol mewn ardal benodol, a hynny sawl gwaith weithiau. Y nod yw gwneud pobl yn ymwybodol o'r rheswm pam mae'r cyfrifiad yn bwysig a darparu gwybodaeth sy'n sicrhau bod ein cofrestr o gyfeiriadau yn gyfredol.
Fel wyneb cyfeillgar y cyfrifiad, mae'n bwysig eich bod yn gallu ymgysylltu â phobl o bob cefndir. Byddwch yn mwynhau bod yn rhan o dîm agos a chefnogol. Byddwch hefyd yn gwybod sut i ddefnyddio ffonau clyfar ac yn gallu gweithio oriau hyblyg. Rydych hefyd yn gyfforddus yn gweithio'n annibynnol, yn wydn ac mae gennych fynediad dibynadwy i drafnidiaeth. Gallai iaith wahanol fod yn ddefnyddiol. Y naill ffordd neu'r llall, mae gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog a'r gallu i feithrin ymddiriedaeth. Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn dilyn ein prosesau ac yn cadw'r wybodaeth rydych yn ei chasglu yn gyfrinachol ac yn ddiogel.
Dim ond bob 10 mlynedd y mae'r cyfrifiad yn cael ei gynnal ac mae'n cyfrif pob person a chartref yng Nghymru a Lloegr. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, mae angen i ni yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gael tîm maes mawr i weithio mewn cymunedau yn helpu pobl i gymryd rhan. Yn y tîm maes ar gyfer Cyfrifiad 2021, byddwch yn cwrdd â phobl o bob cefndir ac yn magu profiad gwerthfawr. Ar ben hyn, byddwch yn rhan o rywbeth sy'n hanfodol i bob un ohonom. Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei chasglu yn helpu gyda phenderfyniadau ynglŷn â chynllunio ac ariannu gwasanaethau yn eich cymuned.
Felly, ymunwch â'r tîm a gwnewch effaith barhaol.
Gyda'r hyblygrwydd i ddewis eich oriau gwaith eich hun, gallwch wneud i'r contract hwn weithio i chi, ar yr amod eich bod ar gael i weithio'r mwyafrif o'r amser gyda'r nos ac ar benwythnosau, gan mai dyna pryd y bydd fwyaf tebygol y bydd pobl gartref. Yn ogystal â chyfradd cyflog ddeniadol, caiff cyfarpar ei ddarparu a byddwch yn cael hyfforddiant llawn a chymorth i gyflawni'r rôl hanfodol hon.
Y rôl
O ystyried natur unigryw y cyfrifiad bydd angen i SYG ddangos rhywfaint o hyblygrwydd er mwyn i ymateb i unrhyw sefyllfa a all godi. Er mwyn cefnogi'r angen hwn, rydym wedi datblygu rolau swyddog symudol. Caiff y rolau hyn eu neilltuo i dîm symudol, a reolir gan arweinydd tîm symudol, a bydd yn ofynnol i chi deithio fel rhan o dîm i un lleoliad neu i sawl lleoliad ledled Cymru a Lloegr lle mae angen adnoddau ychwanegol.
Fel swyddog symudol y cyfrifiad, mewn ardal benodol, byddwch yn rhan o dîm o hyd at 12 o swyddogion y cyfrifiad, a byddwch yn atebol i arweinydd tîm y cyfrifiad. Prif ddiben eich rôl fydd annog y bobl yn eich ardal i gwblhau holiadur ar-lein Cyfrifiad 2021. Byddwch yn cael llwyth gwaith dyddiol o gyfeiriadau nad ydynt wedi cyflwyno holiadur y cyfrifiad eto, a bydd angen cynnal ymweliad dilynol i'w cefnogi a'u hannog i'w gwblhau. Byddwch yn helpu preswylwyr i ddeall pwysigrwydd y cyfrifiad, a'r rôl hanfodol sydd ganddynt i sicrhau ei fod yn llwyddiant. Byddwch yn eu helpu i oresgyn unrhyw wrthwynebiadau neu rwystrau a allai fod ganddynt sy’n eu hatal rhag ei gwblhau, gan eu helpu eich hun neu eu cyfeirio at gymorth sydd ar gael. Byddwch yn cynorthwyo pobl i gwblhau eu holiaduron, naill ai ar garreg y drws neu mewn digwyddiadau cwblhau. Byddwch yn gweithio gyda rheolwyr ymgysylltu'r cyfrifiad i gefnogi ymgysylltiad ehangach mewn digwyddiadau cymunedol yn ôl yr angen.
Bydd eich arweinydd tîm yn cynnig cefnogaeth, cymorth ac arweiniad yn ôl y gofyn.
Diben
- cynyddu cyfraddau ymateb y cyfrifiad
- datblygu enw da'r cyfrifiad
Chwe ymddygiad hanfodol cenhadon y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
-
Hunangymhellol –
gwneud y tasgau cywir yn y drefn gywir -
Cefnogol –
ymgysylltu â'r cyhoedd a'u hannog ar garreg eu drws -
Cydymffurfio –
cadw cofnodion cywir ac amserol -
Uniondeb –
cadw data'r cyhoedd yn ddiogel -
Awyddus i ddysgu –
ymrwymo i gwblhau eich gwaith dysgu a deall eich swydd -
Menter –
rhannu eich profiad a'ch gwybodaeth leol i gefnogi eich tîm a dileu rhwystrau i ymateb
Prif gyfrifoldebau
Yn bennaf oll, eich rôl fydd hyrwyddo buddiannau'r cyfrifiad ac annog ymateb cadarnhaol gan gartrefi. I wneud hyn, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- ymweld â'r rhestr o gyfeiriadau a roddwyd i chi drwy ap ar y ffôn clyfar a ddarperir a chofnodi canlyniad yr ymweliad yn gywir
- ceisio cysylltu â phreswylwyr ym mhob cyfeiriad y byddwch yn ymweld ag ef
- annog deiliad y cartref i gwblhau'r holiadur ar-lein, gan dynnu sylw at y rhan bwysig sydd ganddynt i'w chwarae yn llunio'r dyfodol
- cyfeirio ymatebwyr at swyddogaethau cymorth y cyfrifiad
- dilyn gweithdrefnau SYG, yn enwedig y rheini ynghylch eich diogelwch
- rhoi gwybodaeth ychwanegol i gartrefi i'w helpu i gwblhau eu hymateb, a fydd yn cynnwys holiaduron, cardiau a thaflenni y byddwch yn eu cario yn eich bag bob dydd
- mynd i ddigwyddiadau cwblhau cymunedol lle y bo angen
- cynorthwyo ymatebwyr i gwblhau'r holiadur ar garreg y drws lle y bo'n briodol
- llunio'r gofrestr mynediad diogel i sicrhau mynediad i gymunedau adwyog
- cyflwyno adroddiadau rheolaidd ar gynnydd i'ch arweinydd tîm a mynychu cyfarfodydd tîm
- sicrhau y cedwir gwybodaeth y cyfrifiad yn gyfrinachol ac yn ddiogel bob amser
- byddwch yn cwrdd â'ch rheolwr llinell yn ystod eich wythnos gyntaf a chael eich pecyn swyddog y cyfrifiad (sy'n pwyso tua 10kg)
- cwblhau gweithgareddau e-ddysgu yn ôl yr angen er mwyn meithrin y cymwyseddau a'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rôl
- cymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso ac ôl-drafod
Sgiliau a phrofiad hanfodol
Bydd angen i chi:
- feddu ar sgiliau cyfathrebu da yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig (byddai sgiliau Cymraeg hefyd yn fanteisiol os byddwch yn gweithio yng Nghymru)
- meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog, gan gynnwys siarad ag aelodau o'r cyhoedd
- bod yn hyderus wrth ddelio â'r cyhoedd a'r gymuned leol
- bod yn drefnus a gallu cynllunio terfynau amser penodol a gweithio o fewn y terfynau hynny
- bod yn hyderus wrth weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm, gan ddefnyddio eich menter eich hun
- gallu deall cyfarwyddiadau ysgrifenedig a llafar manwl a'u dilyn
- bod yn hyderus wrth ddefnyddio ffôn clyfar a rhaglenni amrywiol
- bod yn broffesiynol bob amser, a pheidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd heriol
COVID-19
Byddwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio a chanllawiau priodol y llywodraeth er mwyn eich cadw chi’n ddiogel pan fyddwch yn gweithio i SYG. Bydd cyfarpar diogelu personol priodol, gan gynnwys diheintydd dwylo a masgiau wyneb, yn cael eu darparu i’r holl staff. Er mwyn eich cadw’n ddiogel, bydd angen i chi ddefnyddio a gwisgo’r cyfarpar diogelu personol hwnnw, yn ôl cyfarwyddyd, pan fyddwch chi’n gweithio. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol drwy gydol gweithrediad y cyfrifiad.
Gofynion eraill
Bydd angen i chi:
- fod yn barod i ddefnyddio'ch cartref fel swyddfa a storio bocsys o ddeunyddiau staff maes (bydd hefyd angen i chi roi gwybod i'ch cwmni yswiriant eich bod yn gweithio gartref)
- gallu derbyn cyflenwadau, rhoi trefn arnynt a'u dosbarthu'n briodol
Symudedd
Bydd angen i chi allu teithio ledled Cymru a Lloegr heb gael mwy na 24 awr o rybudd a bod yn barod i aros dros nos ac am gyfnodau hwy yn ôl y gofyn er mwyn diwallu anghenion y gweithrediad. Bydd hefyd angen i chi allu teithio i'ch ardaloedd penodol ac o gwmpas i ymweld â chyfeiriadau (bydd y pellteroedd yn amrywio yn dibynnu ar b'un a ydych mewn ardal wledig neu drefol).
Byddwch yn cael cymorth i drefnu llety lle y bo angen a bydd unrhyw dreuliau angenrheidiol yr eir iddynt yn cael eu had-dalu i chi yn unol â'r polisi.
Gofynion gyrru
Ar gyfer y rôl hon, bydd angen bod gennych drwydded yrru lawn a chyfredol y Deyrnas Unedig a'r defnydd o gerbyd modur (sydd wedi'i yswirio at ddefnydd busnes) – cewch lwfans milltiroedd. Byddwch yn cael eich talu am dreuliau teithio o fewn eich ardal waith.
Gwyliau blynyddol
Cynigir 28 diwrnod o wyliau blynyddol, a gyfrifir ar sail pro-rata yn seiliedig ar hyd y gyflogaeth a'r oriau gwaith.
Cymerir gwyliau mewn un bloc yn ystod yr wythnos wyliau benodol, sef wythnos olaf y cyfnod cyflogaeth. Yn anffodus, oherwydd rhesymau gweithredol, ni fydd yn bosibl cymryd gwyliau ar adegau eraill.