Swyddi dros dro i bawb
Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad
Croeso i wefan recriwtio'r cyfrifiad.
Rydym yn recriwtio miloedd o bobl fel chi mewn amrywiaeth o rolau dros dro cyffrous er mwyn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant.
Mae'r cyfrifiad yn arolwg am bob un ohonom ni. Mae angen eich help a'ch brwdfrydedd chi arnom er mwyn annog pawb yng Nghymru a Lloegr i gymryd rhan.
Mae'r cyfrifiad yn rhoi darlun i ni o gymunedau, sy'n helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn eich ardal. Nid oes unrhyw beth arall yn rhoi cymaint o fanylion am y gymdeithas rydym yn byw ynddi, gan helpu i wneud penderfyniadau a allai drawsnewid bywydau er gwell.
P'un a ydych yn cynilo ar gyfer rhywbeth neu eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch cymuned, mae swydd i chi.
Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad.
GWYBODAETH COVID-19:
Mae ein rolau ar gyfer y cyfrifiad yn cael eu cynllunio i ddiogelu iechyd a diogelwch yr holl ymgeiswyr a staff. Rydym yn gwneud popeth sy'n ymarferol resymol i leihau unrhyw risgiau a achosir gan COVID-19. Edrychwch ar ‘Y diweddaraf ynglŷn â COVID-19’ i weld y camau rydym wedi'u cymryd.
Y cyfrifiad
Dysgwch pam y crëwyd yr arolwg pwysig hwn i gyfri'r boblogaeth.
Sut i wneud cais
Darllenwch y gofynion hanfodol hyn cyn i chi wneud cais.
Chwilio am swydd
Dysgwch am ein cyfleoedd diweddaraf, gyda lleoliadau, oriau a chyflogau gwahanol.
Oes gennych chi gwestiynau?
Cymerwch gipolwg ar y cwestiynau mwyaf cyffredin er mwyn dod o hyd i'r atebion sydd eu hangen arnoch.
Gwyliwch rai proffiliau fideo
Gwrandewch ar farn pobl sydd wedi gweithio ar y cyfrifiad yn flaenorol.
Dysgwch am y manteision sydd ynghlwm wrth weithio gyda ni
Gwnewch rywbeth dros eich cymuned, ychwanegwch at eich incwm a helpwch i wneud hanes.